Brìg y Bercin

Cartref » Repertoire » Brìg y Bercin

Alaw traddodiadol, geiriau J. Glyn Davies.

Geiriau

Mae Brìg y Bercin ar y môr:
Ffarwél i lenydd Sbaen!
A Dafydd Jones yn Gomandôr
Hwrê am Bortinllaen!

Mae’r gwynt yn deg a’r iardiau’n sgwâr:
Ffarwél…
Mae’r Brìg yn mynd fel man-i-war:
Hwrê…

Ffarwél Santander wlad yr haf!
Mae’r Brìg yn rowlio adre’n braf.

Rhaid setio’r royals at y gynt:
Wel haliwch, bawb, awn adre’n gynt.

Cawn weld Pen Cilan cyn bo hir,
A’r tai yn wynion ar y tir.

Cawn weled Penllech, Dinas Garn
A Nefyn, Edern, Ceidio, Sarn.

Cawn weld yr Eifl a Charreg Llam,
A thrwyn Siôn Huws a hwnnw’n gam.

Cyfieithiad i’r Saesneg