Edrych Tuag Adre

Cartref » Repertoire » Edrych Tuag Adre

Alaw traddodiadol, geiriau J. Glyn Davies.

Geiriau

A glywch chwi’r gair, mae’r llong ar hwylio,
A ninnau yn mynd adre:
O olwg tir y byddwn heno:
O hogiau mor deg edrych tuag adre.

Ni fydd dim tir mewn ‘chydig oriau,
A ninnau…
Ni fydd ond môr a sêr a hwyliau.
O hogiau

Chwi adar gwynion sy’n ein danfon,
A glywsoch chwi am Sir Gaernarfon?

O wlad yr haul mae Cymru’n fechan,
Ond daw briallu ‘nghoed Boduan.

Mae blodau gwlad yr haul yn wychion,
Ond boddlon wyf ar fysedd cochion.

O wlad yr haul, mae’n dirion yma,
Ond gwell fy nghartre dan yr eira.

Wrth nesu at yr Horn daw’n oerach,
Ond daw fy nghalon yn gynhesach.

Cyfieithiad i’r Saesneg