Clwt y Ddawns

Cartref » Repertoire » Clwt y Ddawns

Alaw traddodiadol, geiriau J. Glyn Davies.

Geiriau

Mae tinc y delyn ar glwt y Ddawns,
Clywch y tanne yn tiwnio.
A chymred gwaith yn y Cwm ei siawns.
Clywch y tanne yn tiwnio.
Dowch yno i ddawnsio yn ysgafn droed,
Y dawnsio dela a fu erioed,
Clywch Angharad yn tiwnio.
Ffa la la la la la la la la,
Ffa la la la la la la la la,
Fa la la la la la la la la,
Clywch Angharad yn tiwnio.

Yng Nghwm Pen Amnen mae dawnsio del,
Clywch…
Rhwng Siôn a Chatrion a Wil a Nel,
Clywch…
A phawb at ei gilydd yn ienctid glân,
Yn dawnsio yn fuan â chamre mân.
Clywch…

Mae sŵn y delyn dros frig y brwyn,
Clywch…
A gefn y gwynt yn ymdonni’n fwyn,
Clywch…
Mae’r cryman am ddawnsio yn syth o’m llaw,
Wrth ganlyn trawiade y tanne draw,
Clywch…

Mae’r sodle’n gwingo ers hanner awr,
Clywch…
Ni fedra i mo’u cadw nhw ar y llawr,
Clywch…
Mae’r delyn a’r ddawnsio yn mynd o hyd,
Mi af i’w canol â chlec i’r byd,
Clywch…

Cyfieithiad i’r Saesneg