Golau Enlli

Cartref » Repertoire » Golau Enlli

Alaw traddodiadol, geiriau J. Glyn Davies.

Geiriau

Gwynt o’r de a’r glaw yn fân;
Trwm yw gadael Golau Enlli!
Anodd iawn yw codi cân:
Trwm yw gadael Golau Enlli!
Pa sawl mis fydd hyd y daith?
Duw a’i gŵyr, mae’r môr yn faith.

Nos yn dechrau cuddio’r lan;
Golau Enlli’n pefrio’n wan.

Adar môr ar hedfan hir,
Can ffarwél i adar tir.

Glaw o hyd ac awyr blwm,
Dec yn wlyb a’r hwyliau’n drwm.

Gadael cartref, haul tan gudd,
Criw o Gymry’n ddigon prudd.

Echdoe gartre’n Mhortinllaen:
Te a crympog o fy mlaen.

Ffarwél, ffrindiau, bob ag un;
Gwych fydd hywilio’n ôl i Leyn.

Cyfieithiad i’r Saesneg