Geiriau
Wele daeth briallu Mair
A llygad dydd ar hyd y ddôl,
Ciliodd henaint daear lwyd
A daeth ieuenctid yn ei ôl;
Lle bu ddistaw lonydd lwyn
Y deffry eto leisiau fyrdd
Dewin tes sy’n dwyn y tir
O dan ei rwyd o dyner wyrdd.
Gaea ddaeth a gaeaf aeth
A haf a’u dilyn yn ei dro;
Ond nid byrddydd gaeaf blin
Ond hirddydd haf fydd yn y co’.
Ef a rydd y wawr a’i wôn
Ar atgof am y gaeaf hen;
Byth ni phaid ei hyder ef
Can’s addwyn ha sy’n addo nef.