Hafan Gobaith

Cartref » Repertoire » Hafan Gobaith

Cerddoriaeth gan Delyth Rees, geiriau gan Eleri Richards, trefniadaeth gan Valerie Hoppe.

Cyfansoddwyd y gân hon ar gyfer codi arian tuag at adeiladu Hope House, hosbis plant ym Morda ger Croesoswallt. Dechreuodd codi arian ym 1991 ac agorodd yr hosbis ym 1995. Ar y pryd dim ond y degfed hosbis plant yn y byd oedd Hope House. Ers hynny mae’r elusen wedi agor hosbis arall Tŷ Gobaith a chanolfannau cwnsela a chefnogaeth. Recordiwyd Hafan Gobaith gan Bryn Terfel fel rhan o’r ymgyrch ac yn 2003 recordiwyd fersiwn yn cynnwys llawer o gantorion gan gynnwys Terfel ar gyfer apêl ddiweddarach.

Geiriau

Pan fyddo’r ystorom
Yn bygwth gwae uwch dy ben,
A therfysg diwedd dydd
Sydd yn rhwygo erwau’r nen.
Pan fyddo’r cysgodion
Yn taenu ias dros y tir,
Mantell ofnau’r nos
Sydd yn gaddug blin o gur.

Yma fe gei ysbaid
Noddfa i’th enaid,
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr.

Pan fyddo dy lwybr
Mor faith a thithau’n llesgáu
A chopa’r bryn ymhell,
Gorwel nad yw’n agosáu.
Pan fyddo dy ysbryd
Ar fin diffygio’n llwyr,
A baich unigedd byd
Sydd yn drech ym min yr hwyr.

I’r sawl sy’n myned drwy ei ddôr,
Cynhaliaeth gref a ddaw.
Ffydd, gobaith a chariad Iôr
Yw’r heulwen wedi’r glaw.

Cyfieithiad i’r Saesneg

When the storm is
Threatening woe above your head,
And the upheaval of the end of the day
Tears the acres of the sky.
When the shadows
Scatter a shudder over the land,
The mantle of fears of the night
Is a sad gloom of aching.

Here you will get respite
A refuge to your soul
Her you will get rest
In a sanctuary of hope until the dawn.

When your path is
So long and you languishing
And the top of the hill far,
The horizon not getting closer.
When your spirit is
About to tire completely
And the burden of world isolation
Is overwhelmingly prevalent in the evening.

Here you will get respite
A refuge to your soul
Her you will get rest
In a sanctuary of hope until the dawn.

To the few who come through its door,
Strong support will come
Faith, hope and love of God
Is the sunshine after the rain.