Cywydd Diolch am yr Haf

Cartref » Repertoire » Cywydd Diolch am yr Haf

Cerdd dant, cainc gan Seiont, , cyfalaw Alwena Roberts, geiriau Anna Jones. O Gerdd Ar Dant, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.

Geiriau

Haearn oedd ein daear ni
Ag ôl dwrn caled arni
Chwefror gwael â gafael go’,
Mawrth o’i ôl yn morthwylio;
Mor ddihoen dan groen y graith, Wynebwn ond anobaith.

Ond hen nerth ddaeth i’r perthi
Yn nos ein dioddef ni;
Martsio’n ôl â’r dwyfol dân,
Ei droedio’n llawn o drydan,
A hi’n wawr, mae’i fyddin o
O’i henaint yn dihuno.

Yn her gref drwy’r ddaear grin
Fe rwyga cledd yr egin,
Fe chwelir, melir pob mur
 bilygau y blagur,
A daw’r diolch oll y deuwn,
Daeth eto haf yr haf hwn.

Cyfieithiad

Our earth was iron
And a hard fist on her
Rotten February with a blacksmith’s grip,
March behind him hammering;
So weak under the skin of the scar,
We only face despair.

But old strength came to the hedges
In the night of our suffering;
Marching back with the divine fire, Treading it full of electricity,
And it is the dawn, her army is
Waking from its old age.

A strong challenge through the withered earth
A sword will tear the shoots,
It is said, every wall will be broken With the petals of the bud,
And all the thanks that come will come,
Summer came again this summer.