
Bydd Côr Cymraeg Coventry yn canu ychydig o ganeuon yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Coventry yfory yn ystod diwrnod o fyfyrdod tawel. Am 1yp bydd gwasanaeth yn yr eglwys, gan gynnwys galwad enwau gyflawn o bob un o’r plwyfolion a laddwyd mewn brwydr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Disgwyliwn ganu rywbryd ar ôl 2.