Mi ganeuom rywfaint o blygain (carolau Nadolig Cymraeg o’r traddodiad gwerin, wedi eu canu mewn cytgord a digyfeiliant) ddydd Sul y 15fed o Ragfyr, yn nhafarn yr Hen Felin Wynt yn Stryd Spon. Mi fwynheuom y profiad yn fawr gyda chymorth cynulleidfa dda a chwrw a seidr arobryn yn nhafarn hynaf Coventry!
