Mi gyflwynom gais ar y funud olaf i gystadleuaeth grŵpiau Eisteddfod Ar-lein Say Something In Welsh. Yr unig ymgeisydd oedd ein cais ni, ac felly yr ydym yn teimlo bron yn ddigon cyffordus i hawlio ein bod wedi ennill! (Ond dim ond tystysgrif mynediad y gawsom, nid gwobr).
Dim ond un diwrnod oedd gennym i gwrdd cyn ddechreuodd gyfnod clo mis Tachwedd/Rhagfyr, felly gwnaethom gyfarfod ym Masn y Gamlas ar ôl y gwaith, a sefyll dau fetr ar wahân wrth i ni ganu.
Braf iawn oedd gweld ein gilydd eto ar ôl nag allu cyfarfod ers mis Mawrth.
