
Roedd yn fraint fawr i Gôr Cymraeg Coventry gael eu gwahodd i berfformio yn Eglwys Gadeiriol Coventry cyn dechrau Darlith Heddwch yr Arglwydd Faer ddydd Iau yr 11eg mis Tachwedd, a fwynheuom hefyd fwffe yn Nhŷ’r Cyngor ymlaen llaw. Cyflwynwyd y Ddarlith Heddwch gan Neville a Christine Staple. Roedd yn bleser cael y cyfle i siarad â nhw – pobl hyfryd ac wrth gwrs darlith wych yn tynnu ar natur uno gwaith Neville a Christine mewn cerddoriaeth a diwylliant.