Rydym yn cynnal Cymanfa Codi’r To yn yr Hen Felin Wynt, Spon St CV1 3BA, am 8yp ar Ddydd Gwyl Dewi, sef dydd Mawrth 1 Mawrth. Y syniad yw ein bod yn canu rhai caneuon ac yn darparu taflenni geiriau a thaflenni cordiau, a phawb arall yn ymuno â’r geiriau neu gordiau gitâr, neu offerynnau taro, neu ba bynnag offerynnau y maent yn hoff o ddod gyda nhw.
Mae croeso i bobl gyfrannu caneuon ac alawon eu hunain os ydyn nhw’n gwybod rhywbeth sy’n berthnasol i gerddoriaeth a diwylliant Cymru, does dim rhaid iddo fod yn yr iaith Gymraeg.
Rydyn ni’n gobeithio benthyg rhai fflagiau gan Gymdeithas y Cambrian ac addurno’r lle ychydig!
Gweler yma am fwy o fanylion.