Fflat go iawn o chwe deg tunnell oedd hwn, o’r enw yr Ann, a adeiladwyd yn Frodsham yn 1799, a brynwyd gan ei meistr Capten Hugh Pugh a dau gyfaill yn 1848 ac a gofrestrwyd ganddynt yng Nghaernarfon. Smack-rigged, square sterned, gyda lifting bowsprit, yn mesur 62 troedfedd wrth 15 troedfedd wrth 7 troedfedd, a ddrylliwyd hi ar Ynys Tudwal [oddi ar arfordir dwyreiniol Penrhyn Llŷn] ym 1858. (J. Glyn Davies).