Geiriau
Gwyn ap Nudd, Gwyn ap Nudd
Lliw y lloer sydd ar dy rudd;
Cerddi’n ddistaw fel y nos
Drwy y pant a thros y rhos;
Gwyn ap Nudd, Gwyn ap Nudd
Heibio i’r grug a’r blodau brith
Ei, heb siglo’r dafnau gwlith:
Gwyddost lle mae’r llyffant melyn
Yn lletya rhwng y rhedyn;
Gwyddost lle mae’r gwenyn dawnus
I grynhoi eu golud melys:
Gweli’r hedydd ar ei nyth,
Ond ni sethri’r bargod byth;
Gwyn ap Nudd, Gwyn ap Nudd,
A lliw y lleuad ar dy rudd;
Breuddwyd wyt yn crwydro’r fro,
A’r ffurfafen i ti’n do;
Cysgod cwmwl sy ar dy ben,
Amdanat mae y niwl yn llen.
Teithiwr wyt, pwy ŵyr dy daith?
Beth ond smaldod yw dy waith?
Pwy a welodd, Gwyn ap Nudd,
Ddeigryn unwaith ar dy rudd?
Chwerthin yw dy oes di,
O, dywysog pob direidi!
Gwyn ap Nudd, Gwyn ap Nudd,
A lliw y lleuad ar dy rudd.