Alaw traddodiadol, geiriau J. Glyn Davies.
Geiriau
Mae’r gwynt yn deg a’r hwyliau yn llawn,
Unwaith eto, hogie!
A’r Fastnet Light yn agos iawn,
Aio, hogie bach!
Os deil y gwynt cawn weled y tir,
Unwaith…
A bryniau Werddon cyn bo hir.
Aio…
Daw cwch y peilot toc aton ni,
A “back main yards” i’w haros hi.
O Meister peilot bach, bore da,
Ni welsom dir er dechra ha’.
O ewch â ni dan gysgod y tir,
I harbwr Corc ‘rôl mordaith hir.
Cawn fwrw angor yn y man
A chlywed peraroglau’r lan.
Cawn ordors toc i hwylio ymlaen,
Daw diwrnod tâl a Phortinllaen.