Hiraeth (Llew Tegid)

Cartref » Repertoire » Hiraeth (Llew Tegid)

Alaw traddodiadol, geiriau gan Llew Tegid, trefniad by J. Lloyd Williams.

Yn ôl Welsh Folk Songs Part III, rhoddwyd yr alaw Sir Fôn hon “Mae ‘nghalon i mor drymed” i J. Lloyd Williams gan Mr W. H. Williams (Llanrwst).

Dyma gân wedi’i gosod yn ystod rhyfel ynlle anfonith milwr neges adref at ei deulu trwy ddrudwen, bod ei frawd yn anffodus wedi cwympo mewn brwydr. Peidiwch â chael eich drysu â’r gân a elwir hefyd yn Hiraeth yn cychwyn “Dwedwch Fawrion o Wybodaeth”, ynlle myfyrith canwr ar poen ar y galon sydd ar ôl gorfod gadael Cymru am byth.

Geiriau

Y Drudwen chwim a siriol,
‘Nawr cwyd ar aden lân,
A bydd yn gennad hiraeth
I fwth yng Ngwlad y Gân;
Fel buost gynt i Branwen,
Pan oedd mewn cyni caeth,
O’r Werddon i Harlech
Ehedaist fel y saeth

Ehed i Gymru dawel,
O ganol mwg a thân,
A dos yn gennad hiraeth,
Sy’n llethu ‘mron yn lân:
Mae wylo ar yr aelwyd,
Mi wn amdanaf fi,
A dos â deigryn hefyd,
Oddi yma gyda thi.

Nid meddwl am y gelyn
Sy’n gwneud fy mron yn brudd;
Ond tôn o hiraeth creulon
Yn rhwygo, rhwygo ‘nghalon sydd:
O’r Drudwen dos â’m neges
I Gymru, dros y dôn;
Er trymed yw y newydd,
Fe ysgafnha fy mron.

Yn ddeufrawd glwadgar nwyfus,
Y cefnem ar ein gwlad:
I herio gelyn rhyddid
Gadawem dŷ ein tad;
Pan fyddi’n torri’r newydd,
Rho ddeigryn yn dy gainc;
Mae’r brawd ieuengaf heddyw,
Yn huno, huno,
Yn huno’n naear Ffrainc.

Cyfieithiad i’r Saesneg

Starling, fast and cheerful
Now rise on fair wing
And be a messenger of longing,
To a cottage in the Land of Song
As you were first to Branwen
When she was in the poverty of servitude
From Ireland to Harlech
You flew like an arrow.

Fly to quiet Wales,
From the midst of smoke and fire,
And become a messenger of the longing,
Which overwhelms my heart completely:
There is weeping at the hearth,
I know (there is) for me
And bring a tear as well,
From here with you.

It is not thinking about the enemy
Which makes my heart sad;
But a wave of cruel longing
Breaking, breaking my heart it is:
From the Starling take my message
To Wales, over the wave;
Although heavy is the news,
It will lighten my breast.

As two glorious, noble brothers
We stood up for our country:
To challenge the enemy freely
We left our father’s house;
When I break the news,
Put a tear on your lap;
The youngest brother today,
Is sleeping, sleeping,
Sleeping in the ground of France.