Rachie

Cartref » Repertoire » Rachie

Cerddoriaeth gan Caradog Roberts, geiriau Henry Lloyd (ap Hefin), trefniant Alwyn Humphreys

Cyfansoddwr, organydd a chôrfeistr Cymreig oedd Dr. Caradog Roberts (1878-1935). Ganed Roberts yn Rhosllannerchrugog a daeth yn organydd yn eglwysi Annibynnol Mynydd Seion ac yn ddiweddarach Bethlehem, y ddau yn “Rhos”, cyn dod yn Gyfarwyddwr Cerdd ym Mhrifysgol Bangor. Cyfansoddodd Roberts lawer o donau emyn. Enwir Rachie, ei enwocaf, ar ôl merch i weinidog yn Resolfen yng Nghwm Nedd. Gafodd Roberts ei gladdu yn Rhosllannerchrugog.

Ganed Henry Lloyd (Ap Hefin) (1870-1946) yn Nolgellau ac roedd yn argraffydd, athro, pregethwr a bardd. Enillodd lawer o wobrau yn ysgrifennu yn y gynghanedd ac ysgrifennodd lyfrau barddoniaeth a llawer o emynau hefyd. Bu’n gweithio ar yr Aberdare Leader a chyfnodolion eraill ac yn ddiweddarach sefydlodd ei wasg argraffu ei hun. Bu farw yn Aberdâr.

Mae Dr Alwyn Humphreys MBE yn arweinydd, yn gyfansoddwr ac yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu. Mae wedi trefnu a chyfansoddi cerddoriaeth sy’n cael ei chanu gan gorau ledled y byd. Cafodd ei eni ym Modffordd ger Llangefni, Ynys Môn . Bu’n arwain a chyfarwyddo Côr Orpheus Treforys (i’r gogledd o Abertawe) am 25 mlynedd. Mae bellach yn cyflwyno Dechrau Canu, Dechrau Canmol.

Ffynonellau

https://en.wikipedia.org/wiki/Caradog_Roberts
https://www.morristonorpheus.com/conductor-emeritus
www.curiad.co.uk

Geiriau

I bob un sydd ffyddlon
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef
Lluoedd Duw a Satan
Sydd yn cwrdd yn awr:
Mae gan blant eu cyfran
Yn y rhyfel mawr.

I bob un sydd ffyddlon,
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef.

Awn i gwrdd y gelyn,
Bawb ag arfau glân;
Uffern sydd i’n herbyn
A’i phicellau tân.
Gwasgwn yn y rhengau,
Ac edrychwn fry;
Concrwr byd ac angau
Acw sydd o’n tu!

Haleliwia
Moliant iddo byth, Amen.

Cyfieithiad i’r Saesneg

For everyone who is faithful
Beneath his banner
Jesus has a crown
Above in the kingdom of heaven
Hosts of God and Satan
Are now clashing:
The children have their lot
In the great war.

For everyone who is faithful
Beneath his banner
Jesus has a crown
Above in the kingdom of heaven.

Let us go to meet the enemy,
Everyone with holy weapons;
Hell is opposed to us
With its pikes of fire.
Let us press into the ranks,
And let us look up;
The Conqueror of the world and death
Is with us on every side!

Hallelujah
Praise to him for ever, Amen.

Ffynhonnell: https://www.angelfire.com/in/gillionhome/Worship/Emynau/I/IBob.html