Bardd, canwr ac arweinydd oedd Richard Davies (Mynyddog) (1833-1877).
Ganwyd ger Llanbrynmair sydd yn fras rhwng Penffordd-Las a Mallwyd yng ngogledd Powys (Sir Drefaldwyn yn flaenorol). Treuliodd ei ddyddiau cynnar fel ffermwr a bugail. Parhaodd ei fywyd awyr agored yng nghefn gwlad Cymru ymysg gwerin wledig yn elfen ganolog o’i waith. Roedd yn boblogaidd ac yn llwyddiannus fel cyfansoddwr caneuon, canwr ac arweinydd. Ymhlith ei delynegion mae Myfanwy a Sosban Fach a hefyd y libreto i opera Joseph Parry, Blodwen. Mae wedi ei gladdu ym mynwent yr Hen Gapel yn Llanbrynmair.