Ffarwél San Salvador

Cartref » Repertoire » Ffarwél San Salvador

Alaw traddodiadol, geiriau J. Glyn Davies.

Geiriau

Ffarwél i bob enaid yn San Salvador!
Gwynt teg, chwaneg o wynt!
Hwre am hen Gymru sy’n bell dros y môr,
Dal y llyw atat i’w gweld hi yn mynd!

Wel hogie, be sydd yn eich pacie bob un,
Gwynt teg…
I godi calonnau’r hen bobol yn Lleyn?
Dal y llyw…

Be fydd gan Huw Felin yn bresant i’w nain?
Ond cetyn a baco, Be wna i â’r rhain!

Be fydd gan To Rigin yn bresant i’w wraig?
Ond dillad i’w trwsio; bydd honno fel draig,

Mae Dic am roi mwnci yn bresant i’w fam,
Mi fydd yr hen wreigan a’i cheg yn o gam,

Mae Wil wedi bachu het plismon i’w dad,
A’r plismon yn chwilio amdano drwy’r wlad.

Mae’r plismon yn chwilio yn San Salvador,
A Wil yn reit hapus ar ganol y môr.

Cyfieithiad i’r Saesneg