Alaw traddodiadol, geiriau J. Glyn Davies.
Geiriau
O Santiana! chwyth dy gorn:
Aiô, Santiana!
Gyr wyntoedd teg i rowndio’r Horn:
Mae ‘nghartre i yng Nghymru bell.
Mae’r rhaffe i gyd fel ffyn o rew,
Aiô…
A’r môr yn wyllt, ne’r niwl yn dew;
Mae ‘nghartre…
Mae tŷ fy nhad yn wyn a hardd,
A rhosys chchion yn yr ardd.
Ar ben y drws mae Mam a Nhad;
Does unlle’n debyg i fy ngwlad;
Mae’r adar bach yn canu’n y coed,
A pero’n gwrando am sŷn fy nhroed.
Mae’r hwylie wedi rhewi’n gorn;
Gyr wyntoedd teg i rowndio’r Horn.