Alaw traddodiadol, geiriau a threfniant gan Robert Bryan.
Recordiwyd Suo-Gân mewn print gyntaf tua 1800. Casglwyd geiriau’r pennill cyntaf gan Robert Bryan a greodd y trefniant hefyd.
Geiriau
Huna blentyn ar fy mynwes
Clyd a chynnes ydyw hon;
Breichiau mam sy’n dynn amdanat
Cariad mam sy dan fy mron;
Ni cha dim amharu’th gyntun,
Ni wna undyn â thi gam
Huna’n dawel, annwyl blentyn
Huna’n fwyn ar fron dy fam.
Huna’n dawel heno huna
Huna’n fwyn y tlws ei lun
Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
Gwenu’n dirion yn dy hun?
Ai angylion fry sy’n gwenu
Arnat ti yn gwenu’n llon?
Tithau’n gwenu’n ôl dan huno
Huno’n dawel ar fy mron?
Paid ag ofni, dim ond deilen,
Gura, gura ar y ddor;
Paid ag ofni, tôn fach unig
Sua, sua ar lan y môr;
Huna blentyn nid oes yma
Ddim i roddi i ti fraw;
Gwena’n dawel yn fy mynwes
Ar yr engyl gwynion draw.
Cyfieithiad i’r Saesneg
Sleep, child, on my bosom,
Cosy and warm it is;
A mother’s arms are tight around thee,
A mother’s love is under my breast.
Nothing shall impair thy snooze,
Nor shall any man do thee harm;
Sleep quietly, darling baby,
Sleep gently on thy mother’s breast.
Sleep quietly, tonight, sleep,
Sleep gently, pretty the scene,
Why art thou now smiling,
Smiling tenderly to thyself?
Are angels above smiling
Upon thee smiling cheerfully
Thou smiling back while asleep
Sleeping quietly on my breast?
Do not fear, it is only a leaf
That it knocking, knocking on the door;
Do not fear, it is only a little wave
Murmuring, murmuring on the seashore.
Sleep, child, there is not here
Aught to give thee alarm;
Smile quietly on my bosom
At the bright angels yonder.