Grŵp canu ydy Côr Cymraeg Coventry a dim ond yn y Gymraeg y byddwn yn canu.
Teimlwn nad yw cerddoriaeth a diwylliant Cymru yn derbyn sylw hyd yn oed y dyddiau hyn. Gellir olrhain diwylliant barddoniaeth Cymru – barddoniaeth a cherddoriaeth – yn ôl i’r cyfnod Rhufeinig ac mae’n etifeddiaeth gyfoethog a hardd. Mae hyn yn cynnwys straeon, cerddi a chaneuon rhyfel a chanmoliaeth a berfformiwyd gerbron llysoedd tywysogol, trefnidiaethau clasurol, emynau, caneuon gwerin a chaneuon y bobl.
Mae’r côr tri neu bedwar llais yn rhan hygyrch o’r etifeddiaeth honno a rydym wrth ein bodd i’w archwilio. Rydym yn grŵp bychan o chwe aelod, felly rydym yn croesawu ceisiadau newydd i bobl ymuno. Rydym wedi perfformio mewn eglwysi, tafarnau, bariau, ac yng Nghanolfan Celfyddydau Warwick cyn sgrinio’r ffilm Gymraeg Hedd Wyn.