Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the wp-plugin-mojo domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /hermes/bosnacweb04/bosnacweb04ci/b1683/ipg.kathytaylorjonescouk/corcymraegcoventry.co.uk/wp-includes/functions.php on line 6114
Newyddion - Page 2 of 4 - Côr Cymraeg Coventry

Newyddion

Darlith Heddwch

Roedd yn fraint fawr i Gôr Cymraeg Coventry gael eu gwahodd i berfformio yn Eglwys Gadeiriol Coventry cyn dechrau Darlith Heddwch yr Arglwydd Faer ddydd Iau yr 11eg mis Tachwedd, a fwynheuom hefyd fwffe yn Nhŷ’r Cyngor ymlaen llaw. Cyflwynwyd y Ddarlith Heddwch gan Neville a Christine Staple. Roedd yn bleser cael y cyfle i siarad â nhw – pobl hyfryd ac wrth gwrs darlith wych yn tynnu ar natur uno gwaith Neville a Christine mewn cerddoriaeth a diwylliant.

Gigs i ddod 28 a 29 Awst

Mae gynnon ni ddau gig awyr agored yn ddiwedd mis Awst ac rydyn ni’n edrych ymlaen aton nhw yn fawr iawn.

Ar ddydd Sadwrn y 28fed o Awst dan ni’n perfformio mewn gŵyl hyfryd o’r enw Beneath The Trees, rhan o raglen Dinas Diwylliant Coventry, ym Mharc Melyn Naul (Coundon St, Coventry CV1 4AR) yn agos at ganol y ddinas. Dydyn ni ddim yn sicr pa amser fyddwn ni ar y llwyfan eto, ond mae’r ŵyl gyfan yn para o 12 tan 8pm, felly dewch i lawr am gymaint o’r dydd ag y gallwch chi! Mi fydd yn anhygoel, ac mae Parc Melin Naul yn berl cudd bach hardd. Tocynnau sy am ddim.

Ac ar ddydd Sul, y 29fed o Awst, rydym yn ôl ar waith mewn gŵyl awyr agored hyfryd arall (am ddim hefyd) o’r enw Generate. Mae’r un hon yn Ysgol Côt Las, ar ochr arall maes parcio yr ysgol. Byddwn ni’n perfformio am 3.20 ond mae’r adloniant yn para rhwng 2.30 a 5 o’r gloch. Bob dyddiau Sadwrn a Sul mae adloniant ar yr un amseroedd tan ddydd Llun Gŵyl y Banc, felly dewch i lawr gymaint o weithiau ag y dymunwch!

This image has an empty alt attribute; its file name is image-1024x682.png
This image has an empty alt attribute; its file name is image-1-732x1024.png



Mae ymarferion yn ail-ddechrau

Yr ydym newydd wedi dechrau ymarfer wyneb i wyneb eto. Cyn hynny mi ddefnyddiom meddalwedd da o’r enw Jamulus sy’n cymorth grwpiau canu gyda’n gilydd yn eithaf da. Rŵan yr ymarferiwm y tu allan ac o dan bellter cymdeithasol. Y mae wedi bod yn braf iawn i ailgyfarfod eto.

Cwisiau BBC Radio Cymru

Yr ydym wedi bod yn cymryd rhan yng nghwis BBC Radio Cymru nos Wener (8.30-9.45). Dair rownd sydd yna – Gwybodaeth Gyffredinol, Llun/Cerddoriaeth, a Risg, ynlle byddwch yn colli eich holl bwyntiau os ydych yn ateb un cwestiwn yn anghywir.

Weithiau yr ydym yn gwneud yn eithaf da, ac ar adegau eraill ddim yn dda iawn, ond yr ydym yn ei fwynhau o bob amser ac o leiaf rydym yn clywed ein henw wedi ei ddarlledu ar radio Cymraeg!

SSIW Eisteddfod Ar-lein

Mi gyflwynom gais ar y funud olaf i gystadleuaeth grŵpiau Eisteddfod Ar-lein Say Something In Welsh. Yr unig ymgeisydd oedd ein cais ni, ac felly yr ydym yn teimlo bron yn ddigon cyffordus i hawlio ein bod wedi ennill! (Ond dim ond tystysgrif mynediad y gawsom, nid gwobr).

Dim ond un diwrnod oedd gennym i gwrdd cyn ddechreuodd gyfnod clo mis Tachwedd/Rhagfyr, felly gwnaethom gyfarfod ym Masn y Gamlas ar ôl y gwaith, a sefyll dau fetr ar wahân wrth i ni ganu.

Braf iawn oedd gweld ein gilydd eto ar ôl nag allu cyfarfod ers mis Mawrth.

Cymanfa Codi’r Tô

Ar nos Fawrth oer ym mis Chwefror mi fwynheuom Cymanfa Codi’r Tô (noson o ganu tafarn yn y Gymraeg) yn Nhafarn y Feithrinfa. Felly mi ddarparom daflenni caneuon a thaflenni cordiau a falch iawn yr ydym o ddweud wnaeth pawb y dafarn a’n ffrindiau cerddorol ymuno’n frwd. Gawsom i gyd lawer o hwyl a chanom rhai o’n hoff ganeuon Cymraeg, o emynau i siantïau môr. Mi oedd ‘na gwrw gwych ac awyrgylch cymunedol rhagorol fel bob amser yn y Feithrinfa.

Plygain yn Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr

Canodd Côr Cymraeg Coventry fwy o blygain yn Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr, Coventry yn ôl ym mis Ionawr. (Carolau Nadolig Gymraeg yw Plygain ond gwerin mewn steil ac yn draddodiadol yn cael ei chanu tan ddiwedd mis Ionawr). Mi ddeisiom Ionawr 12 i gyd-fynd â’r Hen Flwyddyn Newydd sy’n dal i gael ei dathlu yng Nghwm Gwaun.

Roeddem yn falch iawn i allu rhannu’r cyngerdd hwn gyda Greengrass, un o grwpiau gwerin Coventry mwyaf adnabyddus gydag offeryniaeth a harmonïau hyfryd.

Plygain yn yr Hen Felin Wynt

Mi ganeuom rywfaint o blygain (carolau Nadolig Cymraeg o’r traddodiad gwerin, wedi eu canu mewn cytgord a digyfeiliant) ddydd Sul y 15fed o Ragfyr, yn nhafarn yr Hen Felin Wynt yn Stryd Spon. Mi fwynheuom y profiad yn fawr gyda chymorth cynulleidfa dda a chwrw a seidr arobryn yn nhafarn hynaf Coventry!