Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the wp-plugin-mojo domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /hermes/bosnacweb04/bosnacweb04ci/b1683/ipg.kathytaylorjonescouk/corcymraegcoventry.co.uk/wp-includes/functions.php on line 6114
Newyddion - Page 3 of 4 - Côr Cymraeg Coventry

Newyddion

Digwyddiad gwrth-hiliaeth

Mi fwynheuom canu mewn digwyddiad gwrth-hiliaeth yng Nghaffi Backhaus ym Mhentre Fargo ar yr 1fed o Fai. Yr oeddem yn cefnogi nifer o artistiaid lleol gan gynnwys y Notables Foundation a chyfarfu â chantorion o Kenya ac offerynwyr o’r Swistir. A hefyd mi gaeth ein canu ei ddisgrifio fel “cowin’ lush!”, yn gyfaddef gan gyfaill Cymreig ni.

Gŵyl Nadolig

Mi ddychwelom Eglwys Sant Ioan y Bedyddwr, Coventry ar gyfer eu Gŵyl Nadolig, a rhanom y llwyfan efo’r Medieval Boyz a Thrup’nny Bits. Eglwys brydferth ydyw, ac acwstig gwych ar gyfer cerddoriaeth, , ac yr ydym yn edrych ymlaen at dychwelyd yn fuan. Ein penodiad nesaf yw Cyngerdd Nadolig UMCM nos Sadwrn yr 8fed o Ragfyr, Earlsdon Park Village am saith yp. Ar ôl ganu yn yr eglwys, yr aethom i dafarn arall a chanom cân arall (dim ond un), y tro hwn gyda caniatad a heb cael ein gofyn beidio!

Y Dafarn

Roedd yn wych canu eto yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Fleet Street, Coventry. Mae’r eglwys yn brydferth ac mae ganddi acwstig hyfryd, ac felly ni oeddwn eisiau roi’r gorau i ganu, a phan ddaethon nhw i ben am y diwrnod aethon ni i’r dafarn a ddal i ganu yno – nes i’r landlord ofyn i ni roi’r gorau! Drueni oedd hi ar ôl gael sgwrs efo dyn a ddaeth ei dad o’r Rhondda Fach, ond efallai nad ydym mor eithaf da ag yr ydym yn meddwl ein bod ni!

Digwyddiad Heddwch

War Memorial Window
The War Memorial Window at St John the Baptist Church.

Bydd Côr Cymraeg Coventry yn canu ychydig o ganeuon yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Coventry yfory yn ystod diwrnod o fyfyrdod tawel. Am 1yp bydd gwasanaeth yn yr eglwys, gan gynnwys galwad enwau gyflawn o bob un o’r plwyfolion a laddwyd mewn brwydr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Disgwyliwn ganu rywbryd ar ôl 2.

 

Eisteddfod SSIW

Mae paratoadau yn mynd er mwyn gystadlu yn Eisteddfod ar-lein Say Something In Welsh. Ni allwn ddweud gormod ar hyn o bryd ond gobeithiwn yn cystadlu yn y cystadleuaethau unigol a grŵp. Ymlaen â ni! Cwrs blaenllaw er mwyn ddysgu’r Gymraeg llafar naturiol gyda hyder ydy Say Something In Welsh.

Penwythnos agored yn Charterhouse

Yr oedd gynnom ymarfer dymunol iawn yn Priordy Charterhouse Coventry. Mi ganom ddydd Sadwrn a ddydd Sul, eu dyddiau agored nhw fod rhan o Benwythnos Agored Treftadaeth Coventry.

Roedd yn fraint ddydd Sadwrn gael ein ymuno gan Ágnes yn darllen ar yr olwg, a roedd dydd Sul yn hyfryd hefyd wrth i ni ganu yn yr ardd gefn tra bod adfywiadwyr yn nyddu gwlân, yn gwneud potiau clai, gwneud saethau, ac ymarfer ymladd yn defnyddio cleddyfau.

Digwyddiadau Cymdeithas Cambrian

Fe wnaethon ni fwynhau ein hunain yn ddau ddigwyddiad diwethaf y Gymdeithas Cambrian – Noson Lawen ym mis Chwefror a chinio Dewi Sant y penwythnos diwethaf. Gadawodd y Gymdeithas i ni ganu chwe chân ac roeddent yn gyfeillgar iawn. Diolch i Peter a Chymdeithas Cambrian am y cyfleoedd i ganu i bobl o bob cwr o Gymru a rhai o Loegr hefyd. Dyma gyswllt i ddarganfod mwy am y gymdeithas.