Words
Canwn gerddi Cymru, tra’r haul yn gwŷro’i ben,
A’r nos yn agosáu i roddi’r byd dan lên.
Canwn ein halawon, yn beraidd gyda’r wawr;
Pan y corona’r gwlith y blodau pêr eu sawr.
Cerdda’r awel hyd y ddôl, dan ganu cerddi mwyn,
A’r gornant fach dan ganu’r â i olchi godre’r brwyn;
Mae’r adar oll yn canu hen gerddi anian gu,
Sisialant rhwng y dail “O cenwch gyda ni!”
Canwn gerddi Cymru yn sŵn y delyn lon,
Nes gwneud gwladgarwch pur i chwyddo ym mhob bron;
Dysgwn yr hen gerddi a ganwyd uwch ein crud,
Gan ryw dyneraf fam, wrth wylio’i baban prid.
Chwifiwn faner Gwlad y delyn, codwn Gymru’n ôl,
A chluded awel Cymru Fydd ein cerddi yn ei chôl.
Llawenydd fo’n ymchwyddo y donnau o fwynhad,
Wrth ganu nodau pêr alawon mwyn ein gwlad.
Translation
We sing the poems of Wales, while the sun sets its head,
And the night approaches to put the world under a sheet.
We sing our melodies, sweetly at dawn;
When the dew crowns the sweet smelling flowers.
The breeze walks along the meadow, singing sweet songs,
And the little rill singing goes to wash the foothills of rushes;
All the birds are singing the beloved old tunes,
They whisper among the leaves “Oh sing with us!”
We sing Welsh songs to the sound of the merry harp,
Making pure patriotism swell in every breast;
We learn the old poems sung above our cradle,
By some gentlest mother, watching her dear baby.
Let us wave the flag of the Land of the harp, we raise Wales back,
And may the breeze of Wales to be carry our songs in her lap.
Merriment swells the waves of enjoyment,
While singing the sweet notes of the gentle melodies of our country.