Tune traditional, words J. Glyn Davies.
Goleuni coch a gwyrdd, side-lights, the red port-light showing landwards in sailing for Bardsey Sound. (J Glyn Davies).
Words
Mae’r angor wedi’i godi’n glir,
A Huwcyn wrth y llyw;
Mae’r hwylie’n llawn a’r gwynt o’r tir;
Awn drwy Swnt Enlli cyn bo hir,
A minne’n brentis ar fy ngwir,
Ar Fflat Huw Puw.
I forio, i forio; Ar fynd i’r môr mi rois
fy mryd,
I forio hyd bellderoedd hyd ar Fflat Huw Puw.
Ffarwél, fy annwyl Dad a Mam,
Ffarwél i Siân a Huw;
Ffarwél i Carlo, Prince a Sam,
I Bortinllaen a Chareg Llam,
Cewch fod yn dawel, ni chaf gam,
Ar Fflat Huw Puw.
I forio…
Mae gleuni gwyrdd i’r ochor dde,
A gwyn ar ben y mast;
A’r coch sy atoch, dyfid lle
Mae’r llong yn mynd tan awel gre;
Ni fedra’i lai na rhoi Hwrê,
Ar Fflat Huw Puw.
I forio…